Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 14 Ionawr 2019
Amser:
13.30 -
14.58
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5045
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Neil Hamilton AC Rhianon Passmore AC Jenny Rathbone AC |
Swyddfa Archwilio Cymru: |
Adrian Crompton - Archwilydd Cyffredinol Cymru Matthew Mortlock Dave Thomas Mike Usher |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Bowen (Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Adam Price AC a Jack Sargeant AC.
1.3 Diolchodd y Cadeirydd i Adam Price AC am gadeirio cyfarfodydd y Pwyllgor yn ystod ei gyfnod tadolaeth.
1.4 Ar ran y Pwyllgor, mynegodd y Cadeirydd gydymdeimlad â theulu Steffan Lewis AC, a fu farw ar 11 Ionawr 2019.
2.1 Nodwyd y papurau.
3.1 Trafododd yr Aelodau ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar Wasanaethau Gwybodeg GIG Cymru.
3.2 Trafododd yr Aelodau sylwadau'r Archwilydd Cyffredinol ar ymateb Llywodraeth Cymru, gan gytuno y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am eglurhad ynghylch nifer o faterion ac i wneud cais am ddiweddariadau rheolaidd ar gyflymder y gwelliannau.
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5.1 Trafododd yr Aelodau yr adroddiad drafft, gan gytuno i drafod drafft arall yn y cyfarfod ar 28 Ionawr.
6.1 Trafododd yr Aelodau y papur cwmpasu, gan gytuno i gynnal ymchwiliad i'r mater hwn.
7.1 Trafododd yr Aelodau y papur cwmpasu, gan gytuno i gynnal ymchwiliad i'r mater hwn.
8.1 Trafododd yr Aelodau adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol, gan gytuno i gynnal ymchwiliad i'r mater hwn.
9.1 Nododd yr Aelodau flaenraglen waith Archwilydd Cyffredinol Cymru a'r ffaith mai diwedd yr wythnos honno oedd y dyddiad cau ar gyfer ymatebion iddi.